Cymryd Rhan
GWEITHDAI WYNEB YN WYNEB
Nosweithiau Gwener UCAN
Ymunwch â ni ar gyfer sesiynau creadigol sain a cherddoriaeth, drama, a gemau pob nos Wener! Os ydych rhwng 7-25 mlwydd oed, mae cyfle cyffrous i weithio tuag at wobr Arts Award gyda'n tîm anhygoel.
Mae’r sesiwn wythnosol yma yn gyfle i ddatkblygu eich sgiliau artistig, ac hefyd yn gyfle perffaith i gadw mewn cysylltiad â hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd, tra'n cael hwyl!
Am ragor o wybodaeth am fynychu, cysylltwch â info@ucanproductions.org. Gallwch hefyd wirio ein cyfryngau cymdeithasol am y newyddion cyffrous diweddaraf. Dewch i ymuno â'r hwyl!
Pryd: Gwener 6ed, 13eg, 20fed, 27ain o Mehefin 5:00 yh -7:00 yh
Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Maindy Rd, Caerdydd CF24 4HQ
Pwy: Mae croeso i bawb sy’n cymryd rhan yn UCAN.
Clwb Maggie’s Club
Cafodd y clwb yma ei ddechrau er anrhydedd i aelod annwyl Bwrdd UCAN, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE. Dewch i ymuno â’r hwyl unwaith y mis! Bydd gemau drama, gweithdai sain, celf a chrefft a sgiliau syrcas. Perffaith ar gyfer pobl ifanc sydd â nam ar eu golwg ac anghenion ychwanegol, mae’n le diogel a chroesawgar lle gall pawb fynegu eu hunain a chael hwyl. Dewch i ymuno â theulu Clwb Maggie’s Club!
Pryd: Dydd Sadwrn 28ain Mehefin 2:00PM-3:30PM
Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Maindy Rd, Caerdydd CF24 4HQ
Pwy: Plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg gydag anghenion ychwanegol
SASI
Dewch i ymuno â'r tîm yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd, Mae’r sesiynau’n anelu at ddatblygu hyder, sgiliau lleferydd a hunan eiriolaeth tra’n gwneud ffrindiau a chael hwyl. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar berfformiad ar gyfer dathliad penblwydd UCAN.
Pryd: Dydd Mercher 4ydd, 11eg, 18fed, 25ain Mehefin 11:30 yb - 2:30 yp
Ble: Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd CF10 1BH
Pwy: 18+ mlwydd oed
GWEITHGAREDDAU ZOOM
UCAN Arlein
Mwynhewch a dysgwch sgiliau newydd trwy ddrama. Grŵp poblogaidd gyda llawer o gemau drama, gweithgareddau creadigol ac adrodd straeon. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle i wneud ffrindiau newydd a chael llawer o hwyl trwy weithgareddau sy'n cynnwys creu straeon a byrfyfyr. Mae'r sesiynau hyn yn arbennig o fuddiol i'r rheiny sydd methu mynychu gweithgareddau wyneb yn wyneb neu sydd am ddysgu mwy am UCAN.
Cysylltwch â info@ucanproductions.org am ragor o wybodaeth
Pryd: Dydd Mawrth 3ydd, 10fed, 17eg, 24ain o Fehefin 5:00 yh - 6:30 yh
Pwy: 10-18 mlwydd oed
SUT I YMUNO
Os ydych wedi llenwi'r ffurflen gofrestru yn flaenorol, ni fydd angen i chi ei lenwi eto.
Os ydych yn rhiant sydd eisiau i'ch plentyn ymuno â’n gweithgareddau hwyliog sy’n rhad ac am ddim, cwblhewch ein ffurflen gofrestru ar-lein drwy glicio yma!
Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, cwblhewch y ffurflen drwy glicio yma.
Fel arall, anfonwch e-bost at info@ucanproductions.org