UCAN GO November / December Blog Post
/Megan’s Blog Post
Well, we’ve finally found the time to write our November/December blog post special! November was a busy month and December is well on its way to being much the same, it’s an exciting and eventful time…
So, since October we’ve finished collecting together all the content for both the Torch Theatre and the Wales Millennium Centre, carried out agile user testing with staff and user testers in both venues and attended the third NESTA workshop.
In November we went back to the Torch Theatre in Milford Haven to collect the venue’s routing information and photographs. After the length of time it had taken us to complete the collection of data at the WMC, we weren’t sure how long the Torch might take us. We scheduled one day to try and complete the entire venue, which was just a little bit daunting, but we DID IT!! This was such an achievement and has given us a boost of confidence moving forward. We can now see how our process is easily scalable and can be successful in all sorts of venues, from large to small! It was a brilliant day and we left full of positivity for future possibilities.
At our agile user testing we met with a group of Visually Impaired young people and venue staff. The feedback was really positive! To see other people get so excited about the development of the app was fantastic, even if there were a few things that needed a tweak. Luckily, Calvium had added a flagging feature to the app, which meant that during testing we could flag either a route, or part of a route, and send a message to say what wasn’t working. This has helped us to quickly iron out problems and clearly communicate any routing issues to Calvium. We’ve decided to keep this flagging feature when the app goes live, as this version of the app is just one stage of a much longer journey and we’d like to continue collecting people’s feedback.
At the beginning of December we had a great time attending the third NESTA workshop. It was a wonderful opportunity to catch up on the progress of all the other projects, meet as a whole team and discuss the future of our projects in terms of practicalities such as our business model. If you would like to find out more about the other funded projects please go to: http://artsdigitalrnd.org.uk/projects/
The end of the project is creeping ever closer and we still have plenty to do before the app goes live. Come back and check out our last blog post in January to hear abut what we got up to in the last few weeks of the project!
Merry Christmas!!
Post Mared
Wel dyma ni unwaith eto! Ar gyfer y blog mis yma penderfynom ni gyfuno digwyddiadau mis Tachwedd a Rhagfyr i fewn i un post gan ein bod ni mor brysur yn cwblhau’r app! Mwy prysur nag erioed! Yn ogystal a hyn mae’r Nadolig yn agosau ac mae pawb yn dechrau arafu. Gadewch i mi lenwi chi mewn…
Ar ddechrau mis Tachwedd aethom ni i ymweld a theatr y Torch er mwyn casglu’r holl data ar gyfer yr elfen ‘Taith’ yn yr app. Roedd ganddom ni ddiwrnod cyfan yn unig i gasglu’r holl wybodaeth a lluniau. Byddai’n danddatganiad i ddweud ein bod ni’n nerfus! Doedd gennym ni ddim syniad pa mor hir oedd angen i gyflawni popeth oherwydd fod Theatr y Torch mor wahannol i gymharu a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Ar y tren cawsom gyfle i edrych dros y mapiau a’r taenlen i wneud yn siwr fod popeth yn gwneud synnwyr i ni. Roedd hyn yn syniad da oherwydd unwaith gyrhaeddom ni dechreuon ni weithio’n syth. Ddaru ni ddefnyddio’r un prosesau yn y Torch a wnaethom yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac felly ar ol ychydig oriau fe ddaru ni gwblhau popeth! Roedd hyn yn sioc a rhyddhad pur i ni gyd! Mae hyn yn golygu fod yna botensial i’r prosiect dyfu a datblygu ‘mhellach gan ein bod ni wedi profi cynaladwyedd y prosiect.
Ar ddiwedd y mis roedd hi’n bryd i ni gynnal mwy o weithdai profi defnyddwyr. Y tro yma mewn ffurf ystwyth. Yn syml roedd rhaid i ni brofi’r app yn y ddau leoliad gyda nifer o bobol wahannol. Pobol a nam golwg, ymwelwyr ac hefyd staff y theatrau. Roedd hefyd rhaid i ni wneud lot o waith profi ein hunain, yn enwedig gwaith i’w wneud a’r elfen ‘Taith’. Roedd y math yma o brofi yn andros o fuddiol oherywydd ein bod ni’n cael adborth cywrain a phenodol. Yn ogystal a hyn roeddem ni’n blest cael gweld yr holl frwdfrydedd gan ddefnyddwyr a staff! Mae’n beth hyfryd i glywed cyffro pawb wrth iddyn nhw ddefnyddio’r app. Bwriad yr holl brofion oedd i gywiro unrhyw broblemau yn yr app, casglu adborth defnyddwyr ac hefyd ceisio ymgysylltu ‘mhellach a’r staff.
Ar ddechrau mis Rhagfyr aethom ni gyd i weithdy diweddaraf NESTA. Bwriad y gweithdy yma oedd i wneud i bob grwp feddwl yn ddwys am ddyfodol eu prosiect. Roedd hi’n gyfle gwych i ni gyd cael siarad a rhannu profiadau er mwyn dechrau datblygu camau nesaf y prosiect! Cyffroes iawn!
Felly dyna ni am tro! Rhaid i mi fynd yn ol i weithio ‘nawr! Welai chi eto ym mis Ionawr am ein post olaf! Diolch i chi am ddarllen a Nadolig Llawen i chi gyd a Blwyddyn Newydd Dda!