UCAN: December activities & Updates 🟨⬛
/Please scroll down for the Welsh language version of our newsletter
Hi everyone,
As we head into December, we’re wrapping up a brilliant year of workshops, performances and projects across UCAN. It’s been a pleasure seeing our members step into every opportunity with creativity and confidence, and we’re so grateful for the continued support from our community, funders and friends.
We still have lots happening throughout December, so have a read below to see what’s coming up.
We hope you all have a very merry Christmas and a safe, restful December. Enjoy the break, recharge and spend time with the people who matter most.
We’ll be back to our regular activities from the week commencing 5th January, and we’re excited for everything the new year will bring.
See you soon,
The UCAN Productions Team
News & Updates
🎄 Maggie’s Club Christmas Party – This Saturday! 🎄
Just a quick reminder that our Maggie’s Club Christmas Party is happening on Saturday 6 December at the School of Optometry!
If you haven’t let us know you’re coming yet, please do — it really helps us make sure we have enough gifts for everyone. 🎁
👉 Email enireth@ucanproductions.org
✨ What to bring
We’re asking everyone to bring a little something for the table:
Finger food only
No nuts
Nothing too sugary
✨ Dress code: Christmas jumpers! the more festive, the better! 🎅✨
We can’t wait to see you there and celebrate together! 💛
Performance at Cardiff University
At this years Disability History Month event at Cardiff University, UCAN members performed our Mental Elf sketch — a piece that explores sight loss, mental health and accessibility through humour and lived experience. Sharing this work is important to us, as it opens up conversations that are often overlooked and highlights the realities faced by blind and visually impaired people in a way that’s engaging and accessible.
The UCAN Choir also sang a few Christmas songs in the morning, which brought a nice bit of festive energy to the event. Feedback throughout the day was really positive, and we’re grateful to the organisers for inviting us to be part of such an important programme.
Get Involved
Join UCAN Productions for Face to Face Workshops and online sessions. Unleash your creativity with experienced workshop leaders and make new friends along the way.
Face to Face Workshops
UCAN Friday Nights
Join us for creative sound and music sessions, drama, and games on Friday evenings! If you're aged 7-25, there are exciting opportunities to work towards an Arts Award with our fantastic team.
This weekly session isn't just about honing your artistic skills—it's also a perfect chance to catch up with old friends and make new ones, all while having fun!
For more information on attending, please reach out to info@ucanproductions.org. You can also stay updated by checking our social media channels for the latest updates and exciting news. Come join the fun!
For more information on attending, please reach out to info@ucanproductions.org. You can also stay updated by checking our social media channels for the latest updates and exciting news. Come join the fun!
When: Friday 5th and 12th of December 5:00pm-7:00pm
Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Rd, Cardiff CF24 4HQ
Who: All UCAN participants welcome
SASI
Come and join the team at the wonderful Sight Life Centre in Cardiff, Sessions aim to develop confidence, vocal and self-advocacy skills whilst making friends and having fun.
When: Wednesday 10th and 17th of December 11.30am-2.30pm
at SightLife, Jones Ct, Womanby St, Cardiff CF10 1BR
Who: 18+ years old
Maggie’s Club Christmas Party 🎄
In honour of our beloved UCAN Board Member, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, we're inviting you to a super fun, once-a-month event! Dive into drama games, sound workshops, arts and crafts and circus skills. Perfect for young people with vision impairments and additional needs, this is a safe and welcoming space where everyone can express themselves and have fun. Come join the Maggies Club family!
CHRISTMAS PARTY!
When: Saturday 6th of November 2:00PM- 4:00PM
Where: School of Optometry and Vision Science, Cardiff University, Maindy Rd, Cardiff CF24 4HQ
Who: Children and young people who are vision impaired with additional needs
Zoom Workshops
UCAN Online
Have fun and learn new skills through drama. A popular group with lots of drama games, creative and storytelling activities. These workshops are all about making new friends and having tons of fun through activities including storytelling and improvisation.These workshops are particularly beneficial for those who cannot attend face to face workshops or are keen to learn more about UCAN.
Please contact info@ucanproductions.org for more information
When: Tuesday 9th and 16th of December 5:00pm-6:30pm
Who: ages 10-18
How to Join
If you’ve previously filled out the registration form you won’t need to do it again.
If you are a parent who would like your child to join some free and fun workshops, please complete our online registration form by clicking here!
If you are 18 years and older please complete the form by clicking here
Alternatively email info@ucanproductions.org
Helo bawb,
Mae mis Rhagfyr wedi dod, ac rydym yn cloi blwyddyn wych o weithdai, perfformiadau a phrosiectau ar draws UCAN. Mae wedi bod yn bleser gweld ein haelodau'n cymeryd pob cyfle i ddatblygu creadigrwydd a hyder, ac rydym mor ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan ein cymuned, cyllidwyr a ffrindiau.
Mae gennym lawer yn digwydd o hyd drwy gydol mis Rhagfyr, felly darllenwch isod i weld beth sydd i ddod.
Gobeithiwn y byddwch chi i gyd yn cael Nadolig Llawen iawn a Rhagfyr diogel a gorffwysol. Mwynhewch yr egwyl, ailwefrwch a threuliwch amser gyda'r bobl sydd bwysicaf. Byddwn yn ôl i'n gweithgareddau rheolaidd o'r wythnos sy'n dechrau 5 Ionawr, ac rydym yn gyffrous am bopeth y bydd y flwyddyn newydd yn ei ddwyn.
Gwelwn ni chi cyn bo hir,
Tîm UCAN Productions
Newyddion Misol Sam
🎄 Parti Nadolig Clwb Maggie’s Club – Dydd Sadwrn! 🎄
Nodyn cyflym i ddweud bod Parti Nadolig Clwb Maggie's Club yn digwydd ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr yn yr Ysgol Optometreg!
Os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i ni eich bod chi'n dod eto, gwnewch hynny — mae'n ein helpu i sicrhau bod gennym ddigon o anrhegion i bawb. 🎁
👉 E-bostiwch enireth@ucanproductions.org
✨ Rydym yn gofyn i bawb ddod â rhywbeth bach ar gyfer y bwrdd:
Bwyd bys yn unig
Dim cnau
Dim byd rhy felys / llawn siwgr
✨ Gwisgwch Siwmperi Nadolig! y mwyaf Nadoligaidd, y gorau! 🎅✨
Allwn ni ddim aros i'ch gweld chi yno a dathlu gyda'n gilydd! 💛
Perfformiad ym Mhrifysgol Caerdydd
Yn nigwyddiad Mis Hanes Anabledd eleni ym Mhrifysgol Caerdydd, perfformiodd aelodau UCAN ein sgets “Mental Elf” — darn sy'n archwilio colli golwg, iechyd meddwl a hygyrchedd trwy hiwmor a phrofiad byw. Mae rhannu'r gwaith hwn yn bwysig i ni, gan ei fod yn agor sgyrsiau sy'n aml yn cael eu hanwybyddu ac yn tynnu sylw at y realiti y mae pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg yn ei wynebu mewn ffordd sy'n ddiddorol ac yn hygyrch.
Canodd Côr UCAN ychydig o ganeuon Nadolig yn y bore hefyd, a ddaeth ag ychydig o egni Nadoligaidd i'r digwyddiad. Roedd yr adborth drwy gydol y dydd yn gadarnhaol iawn, ac rydym yn ddiolchgar i'r trefnwyr am ein gwahodd i fod yn rhan o raglen mor bwysig.
Cymryd Rhan
GWEITHDAI WYNEB YN WYNEB
Nosweithiau Gwener UCAN
Ymunwch â ni am sesiynau sain a cherddoriaeth greadigol, drama, a gemau ar nosweithiau Gwener! Os ydych chi rhwng 7 a 25 oed, mae cyfleoedd cyffrous i weithio tuag at wobr Arts Award gyda'n tîm gwych.
Nid yw'r sesiwn wythnosol hon yn ymwneud â datblygu sgiliau artistig yn unig—mae hefyd yn gyfle perffaith i ddal i fyny â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd, a hynny i gyd wrth gael hwyl!
Am ragor o wybodaeth am fynychu, cysylltwch ag info@ucanproductions.org. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy wirio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf. Dewch i ymuno â'r hwyl!
Pryd: Dydd Gwener 5ed a 12fed o Ragfyr 5:00pm-7:00pm
Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ
Pwy: Croeso i bob aelod o UCAN
SASI
Dewch i ymuno â'r tîm yn SightLife yng Nghaerdydd. Nod y sesiynau yw datblygu hyder, sgiliau lleisiol a hunan-eiriolaeth wrth wneud ffrindiau a chael hwyl. Rydym wrthi'n dechrau gweithio ar berfformiad ar gyfer cynhadledd Wales Eyecare Conference 2025.
Pryd: Dydd Mercher 10fed a 17eg o Ragfyr 11.30am-2.30pm
yn SightLife, Jones Ct, Womanby St, Caerdydd CF10 1BR
Pwy: 18+ oed
Clwb Maggie's Club
Er anrhydedd i aelod Bwrdd annwyl UCAN, Dr. Margaret "Maggie" Woodhouse OBE, rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiad hwyliog iawn, unwaith y mis! Cyfle i brofi gemau drama, gweithdai sain, celf a chrefft a sgiliau syrcas. Yn berffaith ar gyfer pobl ifanc â nam ar eu golwg ac anghenion ychwanegol, mae hwn yn le diogel a chroesawgar lle gall pawb fynegi eu hunain a chael hwyl. Dewch i ymuno â theulu Clwb Maggie's Club!
PARTI NADOLIG!
Pryd: Dydd Sadwrn 6ed o Ragfyr 2:00PM- 4:00PM
Ble: Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd CF24 4HQ
Pwy: Plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg ac anghenion ychwanegol
GWEITHGAREDDAU ZOOM
UCAN Arlein
Mwynhewch a dysgwch sgiliau newydd trwy ddrama. Grŵp poblogaidd gyda llawer o gemau drama, gweithgareddau creadigol ac adrodd straeon. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle i wneud ffrindiau newydd a chael llawer o hwyl trwy weithgareddau sy'n cynnwys creu straeon a byrfyfyr. Mae'r sesiynau hyn yn arbennig o fuddiol i'r rheiny sydd methu mynychu gweithgareddau wyneb yn wyneb neu sydd am ddysgu mwy am UCAN.
Cysylltwch â info@ucanproductions.org am ragor o wybodaeth
Pryd: Dydd Mawrth 9fed a 16eg o Ragfyr 5:00pm-6:30pm
Pwy: oedrannau 10-18
SUT I YMUNO
Os ydych wedi llenwi'r ffurflen gofrestru yn flaenorol, ni fydd angen i chi ei lenwi eto.
Os ydych yn rhiant sydd eisiau i'ch plentyn ymuno â’n gweithgareddau hwyliog sy’n rhad ac am ddim, cwblhewch ein ffurflen gofrestru ar-lein drwy glicio yma!
Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, cwblhewch y ffurflen drwy glicio yma.
Fel arall, anfonwch e-bost at info@ucanproductions.org
PO Box 290
Cardiff
CF11 1NF
United Kingdom
